@StorielBangorGwynedd
Amgueddfa | Oriel Gelf | Siop Museum | Art Gallery | Shop
Email
Email
Instagram
Instagram
Facebook
Facebook
Ymunwch â'n Tîm | Join our Team
Ymunwch â'n Tîm | Join our Team
Iwan Bala
Iwan Bala
Daeth geiriau Gerallt Lloyd Owen i feddwl yn y broses y bu’m yn gyflawni dros y f lwyddyn aeth heibio, sef ail-weithio hen luniau oedd yn y stiwdio, a chreu rhywbeth newydd ohonynt. Ambell waith mae olion o waith gwreiddiol yn aros, mae eraill yn hollol newydd eu gwedd. Mae neges y gwaith, ar y cyfan, yn aros fel oedd, er fod y byd wedi newid. Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys gweithiau ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac wedi'u gwneud yn bosibl gan CELF, menter i rannu casgliadau celf gyfoes sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru i gynulleidfa ehangach.
Marian Haf
Marian Haf
Mae Marian Haf yn gweithio o’i stiwdio gardd yn ei chynefin yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru, gan gael ei hysbrydoli gan ei bywyd yng nghefn gwlad. Mae wedi graddio yn celf gain ac yn gwneuthurwr printiau hunan-ddysgedig, sy’n gweithio’n bennaf gyda cholagraff, gan fwynhau ei hygyrchedd a’i bosibiliadau. Mae Marian yn gweithio trwy rwygo a thynnu i mewn i’r bwrdd, ac yn defnyddio inc intaglio sy’n arwain at ddyfnder arlliw meddal wedi’i atalnodi gan linellau miniog a dotiau ‘staccato’. Mae’r darnau yn yr arddangosfa yn gymysgedd o golagraffau ar fwrdd mownt a phrintiau pecyn tetra a wnaed yn rhannol mewn ymateb i’w phreswyliad grŵp yn Knepp.
Gareth Griffith
Gareth Griffith
Gareth Griffith, arlunydd aml-gyfrwng o Wynedd enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Cyflwynodd Gareth pum eitem i’r detholwyr eu hystyried ar gyfer arddangosfa Y Lle Celf, arddangosfa flynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Daeth y tri beirniad, Bedwyr Williams, Angela Davies ac Anya Painstil draw i’r stiwdio. Gwahoddodd y detholwyr ef i ymestyn ei gyflwyniad fel ei fod yn adlewyrchu ei ymarfer stiwdio. Yma, gallwch fwynhau dros ugain o'i weithiau, fel y dangoswyd yn yr Eisteddfod ym mis Awst.
Blog
Blog
Crair Y Mis | Object of the Month
Crair Y Mis | Object of the Month
Cylchlythyr Storiel Newsletter
Cylchlythyr Storiel Newsletter
Storiel Email Forms
Digwyddiadau | Events
Digwyddiadau | Events
Storiel.cymru
Storiel.cymru
Oriel Gelf ac Amgueddfa yng nghanol Bangor, Gwynedd gyda Siop Anrhegion
Ffurflen Adborth | Feedback Form
Ffurflen Adborth | Feedback Form
View on mobile