Sitemap
Elijah Everett

Elijah Everett

vegan; abortion sceptic; non-violent struggle > militarism

Chwyldro’r Iaith Gymraeg

3 min readJul 2, 2026

--

Click here for the English version

Amser maith yn ôl oedd gan y Gymraeg ddim statws o gwbl yn ei gwlad ei hun. Yn ffodus i ni, wnaeth rhai unigolion penderfynol herio hyn. Trwy weithredoedd o anufudd-dod sifil, yn aml am gost bersonol sylweddol, enillwyd hawliau iaith, ac yn y pen draw cafodd y Gymraeg gydraddoldeb cyfreithiol llawn gyda’r Saesneg. Yn anffodus, ni allwn ddweud yr un peth am statws cymdeithasol y Gymraeg. Yn meddyliau y rhai sy’n siarad yr iaith a’r rhai sy ddim, mae’r Gymraeg yn ail i’r Saesneg o hyd. Mae norm cymdeithasol anhysbys yn gwahardd siarad Cymraeg gyda’r rhai sy’n siarad Saesneg i ni. Mae rhai’n mynd ymhellach fyth ac yn osgoi defnyddio’r Gymraeg fel iaith ddiofyn neu hyd yn oed yn ei ochel hi yn gyfan gwbl ym mhresenoldeb pobol di-Gymraeg.

Mae llawer yn cyfiawnhau eu petruster i ddysgu’r iaith leol ac weithiau hyd yn oed yn dadlau dros dynnu cefnogaeth llywodraethol drwy mynnu mai dim ond i gyfathrebu mae iaith yn da, dim byd arall. Cachu tarw ydy hyn. Mae pobl yn poeni am bethau y tu hwnt i gyfathrebu, fel diwylliant ac hiwmor. Yn y byd Saesneg, dan ni’n mwynhau y cewri fel Monty Python a Blackadder, sy’n defnyddio Saesneg sy’n fwriadol o gymhleth ac artiffisial. Dyma beth sy’n wneud nhw’n dda, ond mae’n neud nhw yn anhygyrch i lot fawr o bobol hefyd. Dw i’n amau na fyddai lot o Saeson yn cymeradwyo’r syniad o ail-ddybio bob dim i Saesneg lefel canolradd, er y byddai’n agor y drws i gynulleidfa llawer ehangach. Dan ni ddim yn poeni am gyfathrebu yn unig; dan ni’n poeni am ddiwylliant ac hiwmor; ein diwylliant a’n hiwmor ni. Sut allwn ni wadu yr un peth i’n cymdogion?

Get Elijah Everett’s stories in your inbox

Join Medium for free to get updates from this writer.

Mae’n ymddangos yn rhyfedd i mi fod rhywun sy’n dysgu ail iaith angen caniatad arbennig i ddefnyddio iaith gyntaf y wlad, tra bod y rhai sy’n dewis anwybodaeth ac yn gwneud ffyc ol o ymdrech i ddysgu iaith arall yn cadw’r hawl i fynnu bod pawb yn gorfod newid i’w hiaith nhw.

Dw i’n ystyried y norm gymdeithasol hon yn anghyfiawn. Mae Cymru yn wlad ddwyieithog, ac felly, dylai unigolion fod yn rhydd i ddewis pa iaith maen nhw am ei defnyddio. Bydd llawer yn dewis Saesneg, a fyddai’n amddiffyn yr hawl yma i’r bedd. Ond mae gynna i yr un hawl i ddewis hen iaith fy nhadau. Os mae rhywun yn dymuno byw yng Nghymru ond ddim yn gwneud unrhyw ymdrech i ddysgu iaith gyntaf y wlad, bydd yn rhaid iddyn nhw fyw gyda’r ffaith y bydd ei ddealltwriaeth weithiau’n gyfyngedig. Mae’n ganlyniad uniongyrchol o’u diogi.

Gellir herio norm gymdeithasol anghyfiawn yn yr un modd ag y gellir herio cyfraith anghyfiawn: trwy ei thorri. Gelwir hyn yn anufudd-dod cymdeithasol. Pan fydd confensiwn yn disgwyl i ni newid i’r Saesneg, mae’n bosib i ni barhau yn y Gymraeg, er gwaetha beth mae pobol yn meddwl. Peidiwch â chael eich digalonni rhag siarad Cymraeg dim ond oherwydd eich bod chi’n meddwl bod eich Cymraeg ddim o safon dda. Defnyddiwch beth bynnag sydd ganddoch chi a llenwch y gweddill â Saesneg. I ail-eiriadu hen ddywediad Gaeleg: Well Cymraeg cach, na Cymraeg mewn arch.

Does yna ddim prinder o gyfleoedd i siarad Cymraeg. Pam na wnewch chi roi cyfle i efengylwyr y stryd i’ch argyhoeddu o’u ffydd nhw, ac yna egluro eich safbwynt iddyn nhw yn y Gymraeg? Yn lle anwybyddu cynrychiolwyr elusen wrth allanfa’r archfarchnad lleol, pam na ofynnwch chi gwestiynau iddyn nhw am eu hachos yn y Gymraeg? Eich Sais o gymydog (neu Dic Siôn Dafydd) sydd wedi bod yn byw yma ers deng mlynedd ar hugain ond sy’n dal i wrthod dysgu Cymraeg oherwydd “It’s a useless language and everyone speaks English anyway”, pam dach chi’n dewis gwneud ei ddatganiad yn wir trwy siarad Saesneg gyda fe? A pham na dilynwch chi polisi dim Cymraeg, dim dîl gyda pobol sy eisiau gwerthu rhywbeth i chi? Mae pa mor bell yr awn ni efo hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i bawb ei benderfynu drostyn nhw eu hunain, ond mae rhaid i ni sylweddoli, os dan ni’n derbyn amharodrwydd rhywun i ddysgu Cymraeg trwy siarad Saesneg gyda nhw, dan ni’n cyfrannu at ddiwedd yr iaith Gymraeg. Os na torrwn ni’r norm gymdeithasol o leiaf weithiau, bydd yna ddim newid i’r statws cwo, a bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn fel iaith ail ddosbarth am byth, neu hyd yn oed yn marw fel iaith y gymuned. Ac os mae hyd yn oed y Cymry Cymraeg yn meddwl bod y Gymraeg yn iaith ail ddosbarth yn ei gwlad ei hun, dan ni’n hollol ffocd.

 by the author.creative-commons-zero-21px

--

--

Elijah Everett
Elijah Everett

Written by Elijah Everett

vegan; abortion sceptic; non-violent struggle > militarism